Gallwch nawr brynu tocynnau ac archebu seddi o flaen llaw ar rhai o’n gwasanaethau ar y we yn ogystal â thrwy ap TrawsCymru. Ymwelwch â’r wefan - https://trawscymru.ticketless.travel
Mae "Tocyn Diwrnod TrawsCymru®" yn caniatáu i chi deithio heb gyfyngiad ar wasanaethau canlynol TrawsCymru®:T1, T1C, T1S, T2, T3, T4, T5, T6, T12, T14, X43, 460 yn ogystal â gwasanaeth T9 Gwennol Maes Awyr Caerdydd rhwng Canol Dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd. Gallwch brynu tocynnau oddi wrth y gyrwyr. Maen nhw ar gael i’w defnyddio tan y daith olaf ar ddiwrnod prynu’r tocyn.
Pris Tocyn
£11.00: oedolyn
£7.30: plentyn a pherson ifanc (pobl ifanc 16-21 oed â fy ngherdynteithio*)
£27 Tocyn Grŵp: hyd at 2 oedolyn a 3 phlentyn/person ifanc
Bydd y tocyn yn ddilys tan y siwrnai olaf ar y diwrnod prynu.
Prynwch y tocyn gan y gyrrwr.
Tocyn am siwrnai dwyffordd ar TrawsCymru T2, T3 a T5 yn unig. I’w ddefnyddio ar unrhyw ddau ddiwrnod rhwng y bws cyntaf ar ddydd Gwener a’r bws olaf ar ddydd Llun.
Pris Tocyn:
£10.00: oedolyn
£6.00: person ifanc (pobl ifanc 16-21 oed â fy ngherdynteithio*) a myfyriwr (gyda cherdyn NUS extra dilys)
Prynwch y tocyn gan y gyrrwr.
*Mae’r cynllun fyngherdynteithio wedi’i ymestyn yn awr er mwyn cynnwys pobl ifanc 16-21 oed. Mae modd i ddeiliaid y cerdyn arbed tua 1/3 ar gost teithio ar fysiau. Mae angen fyngherdynteithio i brynu tocyn person ifanc am bris rhatach ar ôl troi’n 16 oed.
Cas-gwent – Cribbs Causeway - Bryste
Sengl |
Sengl Bryste |
Dydd |
Wythnos |
4 Wythnos (Ap yn Unig) |
10 Siwrne (Ap yn Unig)
|
|
Oedolyn |
£6.50 |
£2.00 |
£7.50 |
£21.00 |
£82.50 |
£58.50 |
Plentyn |
£4.30 |
£1.30 |
£5.00 |
£14.00 |
£55.00 |
£39.00 |
Myfyriwr / |
£4.30 |
£1.30 |
£5.00 |
£14.00 |
£55.00 |
£39.00 |
Mi all yr holl docynnau cael eu prynu o flaen llaw ar ap TrawsCymru. Gallwch ei lawrlwytho o’r App Store neu Google Play.
I gael gwybod pris siwrnai fer neu daith unffordd, ewch ar wefan Traveline Cymru neu ffoniwch 0300 200 22 33.