Gwasanaeth T1 TrawsCymru yw eich cysylltiad uniongyrchol rhwng Aberystwyth – Llanbedr Pont Steffan – Caerfyrddin.Mae’n cynnig ffordd o deithio o ansawdd uchel, sy’n dda i’r amgylchedd ac yn werth da am arian.
Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i’ch galluogi i deithio o Aberystwyth i fannau yn y de ag un tocyn yn unig.
Yn lle gorfod defnyddio gwahanol apiau, gwefannau a gwerthwyr i brynu eich tocynnau ar wahân ar gyfer trenau a bysiau, gallwch yn awr brynu un tocyn ar gyfer eich taith gyfan ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a bysiau T1 a T5 TrawsCymru.
Os byddwch yn teithio ar un o wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru o fannau yn y de, bydd angen i chi ddod oddi ar y trên yng Nghaerfyrddin ac ymuno â gwasanaeth T1 TrawsCymru er mwyn parhau â’ch taith. Os byddwch yn teithio o Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan neu Aberaeron, byddwch yn dechrau eich taith ar un o wasanaethau TrawsCymru ac yn ymuno ag un o wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yng Nghaerfyrddin er mwyn cyrraedd pen eich taith.
I gael gwybod mwy, ewch i Trafnidiaeth Cymru.