Gwasanaeth T19 TrawsCymru yw eich cyswllt uniongyrchol rhwng Blaenau Ffestiniog, Betws-y-coed a Llandudno ac mae’n darparu dull o deithio o safon, sy’n garedig i’r amgylchedd, yn ogystal â thocynnau sy’n cynnig gwerth am arian.
Bydd gwasanaeth T19 TrawsCymru yn cymryd lle gwasanaeth X19 o ddydd Sadwrn 29 Mai 2021 ymlaen. Bydd tocynnau tymor a roddwyd yn wreiddiol i’w defnyddio ar wasanaeth X19 yn dal yn ddilys ar wasanaeth T19.
Mae’r gwasanaeth T19 yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos ac mae’n cynnig:
4 taith ddwyffordd bob dydd (o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn unig)
3 taith ddwyffordd ar ddydd Sul
Cysylltiadau â gwasanaethau trên yng Nghyffordd Llandudno
Cysylltiadau â gwasanaethau fflecsi Dyffryn Conwy yn Llanrwst a Betws-y-coed
Wi-fi rhad ac am ddim
Caiff y gwasanaeth hwn ei weithredu gan Llew Jones