Mae gwasanaeth T1C TrawsCymru yn darparu cyswllt uniongyrchol rhwng Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Dyma brif elfennau’r gwasanaeth newydd:-
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos
Bydd y gwasanaeth cyflym, hwn ar fws moethus yn lleihau hyd y daith o Aberystwyth i Gaerdydd ac o Gaerdydd i Aberystwyth i 3.5 awr;
Bydd y gwasanaeth yn gadael Gorsaf Fysiau Aberystwyth am 09.30 ac yn cyrraedd Canol Dinas Caerdydd (Heol Penarth) am 13.00, a bydd yn gadael Caerdydd am 16.45 ac yn cyrraedd Aberystwyth am 20.29;
Bydd y gwasanaeth T1C ar fws moethus yn galw yng Nghyfnewidfa Fysiau / Trenau Port Talbot 7 diwrnod yr wythnos;
Bydd gwasanaeth bws moethus T1C yn galw yn Abertawe ar ddydd Sul.