Mae gwasanaeth T1S TrawsCymru yn gweithredu rhwng Caerfyrddin – Cross Hands – Abertawe chwe diwrnod yr wythnos;
Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i atal ar hyn o bryd nes y nodir yn wahanol, oherwydd effaith y Coronafeirws.
Dyma brif elfennau’r gwasanaeth:
Mae gwasanaeth T1S TrawsCymru yn gweithredu rhwng Caerfyrddin – Cross Hands – Abertawe chwe diwrnod yr wythnos;
Mae’n cynnig cysylltiad cyfleus â gwasanaeth T1 yng Nghaerfyrddin ar gyfer Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth;
Mae Tocyn Diwrnod TrawsCymru yn ddilys ar y gwasanaeth – £11 i oedolion neu £7.30 i bobl ifanc;
Mae rhai bysiau’n galw yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol hefyd. Bydd y bws sy’n gadael Gorsaf Fysiau Abertawe am 12pm yn cyrraedd yr Ardd Fotaneg am 12.42, a bydd bws yn gadael yr Ardd Fotaneg am 16.19 ac yn cyrraedd Gorsaf Fysiau Abertawe am 17.02.
Caiff y gwasanaeth ei weithredu gan First Cymru Buses.