Mae gwasanaeth T3 newydd TrawsCymru yn darparu cyswllt uniongyrchol a rheolaidd, saith diwrnod yr wythnos, rhwng Wrecsam ac Abermaw. Mae’r T3 yn teithio drwy ddyffrynnoedd hyfryd Dyfrdwy ac Afon Mawddach ac yn gwasanaethu canolfannau allweddol fel Llangollen, Corwen, y Bala a Dolgellau.