Mae’r gwasanaeth yn rhedeg bob 20 munud gydol y dydd, ac yn cynnig:
- Gwell cysylltiadau rhwng Canol Dinas Caerdydd, Bae Caerdydd a Maes Awyr Caerdyd
- Cysylltiadau da ar gael yng Nghanol Dinas Caerdydd â gwasanaethau trenau a bysiau eraill ledled Cymru a thu hwnt
- Bysiau â lloriau isel ar bob siwrnai, gyda mwy o le i fagiau, seddi cyfforddus a byrddau
- Wi-Fi am ddim
- Gwasanaeth yn syth at ddrws Terfynfa’r Maes Awyr
- Tocynnau am gost gystadleuol
- Yn gwasanaethu – Canal Street (JF) a Heol Penarth (JM) (cefn Gorsaf Caerdydd Canolog) yng Nghanol Dinas Caerdydd
- Rhaid bod teithwyr yn dechrau neu’n gorffen eu taith ym Maes Awyr Caerdydd
- Caiff y gwasanaeth hwn ei weithredu gan New Adventure Travel
Caiff teithwyr eu hatgoffa y dylent ganiatáu digon o amser i deithio i’r maes awyr, a sicrhau eu bod yn gwybod beth yw polisi eu cwmni hedfan ynghylch isafswm yr amser y mae’n rhaid ei ganiatáu i gofrestru cyn teithio.
Ni all TrawsCymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd teithwyr yn methu â chyrraedd y maes awyr mewn pryd.