Cwestiynau Cyffredin TrawsCymru
Beth yw’r diweddaraf o ran pryd y bydd ap newydd TrawsCymru yn dechrau gweithredu?
- Rydym wrthi’n brysur yn gweithio ar yr ap newydd ar gyfer tocynnau bws, a fydd yn cael ei lansio yn ystod haf eleni, a byddwn yn rhannu mwy o fanylion am y datblygiad cyffrous hwn yn fuan. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra i deithwyr wrth i ni symud i’r cyfleuster newydd hwn.
A yw cŵn yn cael teithio ar fysiau TrawsCymru?
- Caiff un ci ufudd sydd yng nghwmni teithiwr, neu un anifail bach arall, deithio gyda chi ar ein bysiau os bydd y gyrrwr yn penderfynu bod hynny’n iawn. Caiff y gyrrwr benderfynu ble y mae’r lle gorau i’r anifail fod ar y bws. Caiff cŵn tywys a chŵn cymorth deithio bob amser ar ein bysiau.
Alla’ i fynd â beic ar un o fysiau TrawsCymru?
- At ei gilydd, gall beiciau y mae modd eu plygu gael eu cludo’n ddiogel yn y man storio bagiau ar y bws, cyhyd â bod y gyrrwr yn fodlon. Mae ystyriaethau o ran lle a diogelwch yn golygu na chaiff beiciau safonol nad oes modd eu plygu eu caniatáu ar fysiau fel rheol.
Pryd y disgwylir i wasanaeth T9 TrawsCymru ailddechrau?
- Mae gwasanaeth T9 wedi’i atal nes y clywch yn wahanol. Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu rhoi ar ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
Pryd y bydd modd teithio am ddim ar benwythnosau unwaith eto?
- Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fwriad i ailgyflwyno’r trefniadau ar gyfer teithio am ddim ar benwythnosau. Bydd unrhyw ddiweddariadau neu unrhyw newidiadau i’n gwasanaethau yn cael eu rhannu ar ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.